English

Bywgraffiad

Mae gwaith Radha fel artist yn cyd-fynd ag wyth mlynedd o brofiad yn gweithio ar draws prosiectau sy’n dod â’r celfyddydau, ymwneud â’r gymuned, a datblygu cynulleidfa ynghyd. Mae hefyd yn angerddol am brosiectau sy’n gweithio’n gynaliadwy ac sy’n gynhyrchiol ar gyfer y cymunedau y maen nhw’n gweithio gyda nhw.

Ymhlith ei swyddi diweddaraf mae bod yn Gynhyrchydd Ymgysylltu i Artes Mundi 10 ac asesu ceisiadau ar gyfer The Uncertain Kingdom, y Groundwork Collective a’r BFI Academy. Cyn hynny, hi oedd y Cydlynydd Rhaglen ac Allgymorth yn Gentle/Radical. Hi hefyd oedd y ‘Swyddog Gwnaed yng Nghymru’ yng Nghanolfan Ffilm Cymru, gan ddatblygu strategaethau i hyrwyddo Ffilmiau o Gymru. Bu hefyd yn rheoli tendr D&I mawr ar gyfer Cyngor y Celfyddydau ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 2020. Yn 2024, roedd Radha yn Swyddog Prosiect gyda Phrosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru  i gofnodi ac archifo hanes Asiaid Uganda, fel hanes ei thaid a nain, a ddaeth i Gymru fel ffoaduriaid yn 1972. 

A black and white image of a map of India, which has been torn. Hands hold open the torn image to reveal a mirror and a woman's reflection underneath.