English
The artist Radha, a Indian woman with dark hair and black glasses, standing sideways and reading from a paper. She is wearing a blue striped dress with red and yellow flower patterns.

Gwybodaeth

Storïwr yw Radha y mae ei gwaith yn cwmpasu trefedigaethedd, natur, crefydd, defodau, iaith, llên gwerin a dyfodol hapfasnachol. Mae ysgrifennu wrth galon ei gwaith, felly mae unrhyw waith y mae hi’n ei wneud bob amser yn cynnwys testun, ochr yn ochr ag elfen ffisegol neu ddiriaethol y gall pobl ryngweithio â hi megis cerfluniau, printiau, darluniau, sain, gosodiadau, ffilmiau ac iaith ddyfeisiedig o’r enw Etsolstera.

Drwy gydol hanes, bu bodau dynol yn mynd a dod rhwng ein byd ni a’r ‘isfydoedd’ neu’r ‘bydoedd eraill’.

Mae llên gwerin yn dweud cymaint wrthon ni am yr hyn y gallwn ni ei ddysgu o’r teithiau hyn, gan gynnwys sut y bu i bobl wrthsefyll trefedigaethedd, ailadeiladu’r hyn a ddinistriwyd, ac ymarfer undod â rhywogaethau eraill. 

Mae gwaith Radha yn archwilio llên gwerin trwy gydol hanes, ac yn defnyddio’r dechneg o adrodd straeon i adeiladu ffyrdd newydd o’n hailgysylltu â’n cyndeidiau dynol, ein cyndeidiau sy’n rhywogaethau eraill, a’r holl hud sy’n cael ei golli trwy drefedigaethedd. Mae hi’n gweithio gyda llên gwerin hŷn a phresennol o Gymru ac India a hefyd yn creu llên gwerin newydd am ddefodau, gwrthrychau hudolus, tiroedd dychmygol a phlanedau newydd.